Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
ISBN: 9781800990647
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma'r bedwaredd o bum nofel yng nghyfres Y Pump. Mae Robyn ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd, ac ar fin cychwyn ar daith i ddod i adnabod ei hunan go iawn. Ond a fydd pawb ym mywyd Robyn yn fodlon ymuno yn y daith?
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Llenor, cerddor ac artist o Ben Llŷn yw Iestyn Tyne, ac mae’n un o Cyhoeddiadau’r Stamp. Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ac yn 2019, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Fe’i penodwyd yn fardd preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer 2021/22. Cyhoeddwyd ei 3ydd casgliad o gerddi, Cywilydd (2019). Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Mae Leo Drayton yn fachgen traws o Gaerdydd. Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf aeth i wirfoddoli yng Nghambodia cyn mynd i’r brifysgol. Dyma’r nofel gyntaf iddo weithio arni ac mae’n hoff o ysgrifennu barddoniaeth.
Gwybodaeth Bellach:
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Ma'e gyfres yn dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.