Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370
Awdur: Dave Burns
ISBN: 9781845278083
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 130 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cawn yma stori’r Hennessys o safbwynt un o’r triawd, Dave Burns; a dyma, yn gryno, hanes Gwyddelod alltud Caerdydd. Mae hi’n stori sy’n absennol o’n llyfrau hanes, yn olrhain stori triawd a gyfoethogodd y sîn canu gwerin yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi’n byrlymu o fwyniant ac o ganu, cymysgedd afieithus o’r hwyl a’r craic.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Pan ffurfiwyd Yr Hennessys ganol y chwedegau fe wnaethon nhw sylweddoli’n fuan iawn fod ganddyn nhw broblem o ran hunaniaeth. Cymerai’r triawd yn ganiataol mai band Gwyddelig oedden nhw oedd yn digwydd byw yng Nghaerdydd. Yna, ar ddiwedd sesiwn yn Ninas Corc dyma rhywun yn gofyn pam nad oedden nhw’n canu caneuon Cymraeg?
Dyma, yn syml, drobwynt o ran hanes y band. Daethant i sylw arloeswyr oedd yn hyddysg yn y byd gwerin Cymraeg, a’r rheiny’n ddylanwadol yn y cyfryngau – Meredydd Evans, Rhydderch Jones a Ruth Price.